Nodau’r prosiect yw:
- Darparu cefnogaeth i bobl ifanc bontio’n ddiogel o ofal (gan gynnwys ystyriaethau ynghylch gohirio gadael gofal a lleihau risg digartrefedd ac ansefydlogrwydd tai)
- Hwyluso cefnogaeth ddi-fwlch yn y gymuned, sy’n fwy cynaliadwy yn y tymor hir, heb ddibynnu ar gyllid yn y dyfodol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
- Grymuso pobl ifanc trwy wella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal
- Meithrin gallu pobl ifanc i eiriol o blaid newid
- Meithrin gwydnwch a mecanweithiau sy’n cadw pobl ifanc yn ddiogel rhag digartrefedd a risgiau cysylltiedig, gan wella’u llesiant cyffredinol
- Cyfrannu at nod y gronfa, sef atal digartrefedd a chyflawni sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal
- Cynnwys pobl ifanc wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso’r prosiect
Agwedd allweddol ar y prosiect oedd creu a darparu cyfres o adnoddau i wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal. Yn ogystal â darparu gweithdai cysylltiedig ar gyfer pobl ifanc, defnyddiwyd yr adnoddau hyn gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i roi cefnogaeth i bobl ifanc bontio’n ddiogel o ofal. Bydd hyn yn lleihau risg digartrefedd ac yn cyflawni sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal.
Mae’r adnoddau’n canolbwyntio’n benodol ar feithrin gallu ariannol pobl ifanc, yn unol â’r themâu craidd a amlinellwyd yn nogfen Strategaeth Cynhwysiad Ariannol Llywodraeth Cymru:
- Mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy
- Mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion
- Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol